SL(6)200 – Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2022

Cefndir a diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) i ddarparu eu bod yn dod i ben ar ddiwedd y diwrnod ar 30 Mai 2022 (yn hytrach na 9 Mai 2022).

Effaith ymarferol y Rheoliadau hyn yw bod y gofyniad (yn rheoliad 20) i wisgo gorchudd wyneb mewn mangreoedd iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau.

Fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, mae’r prif Reoliadau yn parhau i ddarparu nad oes unrhyw lefel rhybudd yn gymwys i Gymru. Mae hyn yn golygu nad yw’r un o’r cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlenni 1 i 4 i’r prif Reoliadau yn gymwys. 

Gweithdrefn

Gwneud cadarnhaol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Rhaid i’r Senedd gymeradwyo'r Rheoliadau o fewn 28 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gwnaed er mwyn iddynt barhau i gael effaith.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Yn benodol, nodwn y paragraffau a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

Er bod y prif Reoliadau, fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, yn cyffwrdd â hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, mae’r Llywodraeth o’r farn bod modd eu cyfiawnhau er mwyn atal lledaeniad clefydau heintus a/neu fod hawl i wneud yr ymyriad ar y sail ei fod yn ceisio cyflawni nod dilys, sef diogelu iechyd y cyhoedd. Mae’r Llywodraeth hefyd o’r farn eu bod yngymesur.

 

Mae’r prif Reoliadau yn cyffwrdd ag Erthygl 5 (yr hawl i ryddid), Erthygl 8 (yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol), Erthygl 9 (yr hawl i ryddid mynegiant, cydwybod a chrefydd), Erthygl 11 (yr hawl i ymgynnull ac ymgysylltu’n rhydd ag eraill) ac Erthygl 1 o’r Protocol Cyntaf (diogelu eiddo), neu maent o bryd i’w gilydd wedi cyffwrdd â’r erthyglau hyn.

 

Mae pob un o’r rhain yn hawliau amodol, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru ymyrryd ag arfer yr hawliau os oes angen gwneud hynny mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogelwch y cyhoedd neu er mwyn diogelu iechyd.  Rhaid cyfiawnhau’r holl gyfyngiadau a gofynion ar y sail mai eu bwriad yw cyflawni nod dilys, sef diogelu iechyd y cyhoedd, a’u bod yn gymesur â’r nod hwnnw.  Rhaid hefyd cydbwyso unrhyw ymyrraeth â’r hawliau hyn â rhwymedigaethau cadarnhaol y wladwriaeth o dan Erthygl 2 (yr hawl i fywyd). Mae estyn gofynion penodol o dan y prif Reoliadau drwy’r Rheoliadau hyn yn ymateb cymesur i ledaeniad y coronafeirws.  Mae'n cydbwyso'r angen i gynnal ymateb priodol i'r bygythiad a achosir gan y coronafeirws yn erbyn hawliau unigolion a busnesau, mewn modd sy'n parhau'n gymesur â'r angen i reoli cyfradd trosglwyddiadau’r coronafeirws, gan ystyried y dystiolaeth wyddonol.”

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn na chynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

Oherwydd y bygythiad parhaus sy’n deillio o’r coronafeirws a’r angen am ymateb iechyd y cyhoedd cymesur a phrydlon, ni chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Fodd bynnag, ymgysylltwyd ag amrywiol randdeiliaid.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

11 Mai 2022